Mae rhai o’r manteision a brofwyd gan ddysgwyr, ysgolion ac athrawon yn cynnwys:
I ddysgwyr
- mwy o hyder ynghylch eu camau nesaf
- nodau gyrfa cliriach
- cyfleoedd i rwydweithio
- arweiniad ynghylch y brifysgol
- modelau rôl proffesiynol
- dyheadau uwch ym maes STEM
- sgiliau cyfathrebu cryfach
- negeseuon cadarnhaol ynghylch rhifedd
“Mae Cronfa Mullany wedi fy helpu i sylweddoli pa feysydd STEM sydd ar gael i mi. Fe wnaeth y mentora un-i-un fy helpu gyda rhai o’r pryderon oedd gennyf ynghylch fy lle ym maes STEM. Mae fy mentor yn gweithio ym maes STEM, ac oherwydd hynny, roedd yn gallu rhoi cipolwg i mi ar fyd STEM. Fe wnaeth y prosiect fy helpu i lunio rhestr fer o yrfaoedd sy’n cyd-fynd â’r pynciau TGAU rwyf wedi’u dewis ac â’m diddordebau.” Dysgwr Blwyddyn 10, E-fentora’r Haf 2025
“Roedd gwrando ar ei gyngor gyrfa, ac arno’n dweud y gallwch chi bob amser ddod o hyd i ffordd ymlaen, yn wirioneddol ysbrydoledig.” Dysgwr Blwyddyn 10, Haf 2026
“Un o’r pethau gorau a wnaeth fy mentor oedd gofyn cwestiynau i mi yn ôl, oherwydd gwnaeth ei gwestiynau i mi feddwl drosof fy hun… am yrfaoedd, sut rwy’n astudio, a sut i astudio’n well.” Mentorai Blwyddyn 9, E-fentora’r Gwanwyn 2026
“Roedd yn dda iawn clywed am yr yrfa a manylion yr hyn sy’n gysylltiedig â hi, yn ogystal â bywyd yn y brifysgol. Fe wnaeth hyn gryfhau fy awydd i ddilyn gyrfa yn y proffesiwn milfeddygol, yn ogystal â’m helpu i ddeall sut i wella’r profiad sydd ar fy CV nawr, er mwyn i mi gael gwell cyfle o fynd i’r brifysgol.” Dysgwr Blwyddyn 12, E-fentora’r Hydref 2024
Clywch ragor gan rai o’n cyn-fentoreion yma:
I athrawon ac ysgolion:
- yn cefnogi Meincnodau Gatsby eich cwricwlwm Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith
- yn cyfoethogi ac yn ategu’r ddarpariaeth gyrfaoedd
- yn cael ei hyrwyddo gan Gyrfa Cymru fel rhywbeth sy’n cyfrannu at eich Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru (GAGC)
- yn cysylltu ystafelloedd dosbarth â diwydiant a llwybrau gyrfa go iawn
- yn ategu rhaglenni gyrfaoedd presennol
- yn cefnogi Uned Cyrchfannau’r Dyfodol Bagloriaeth Cymru
- yn cryfhau’r arweiniad ynghylch y brifysgol
“Rwy’n hoffi’r ffordd y gwnaeth Cronfa Mullany roi adborth ac ystadegau i mi ynghylch sut roedd y bobl ifanc yn ymgysylltu â’u mentoriaid. Rhoddodd rhaglen Mullany fwy i mi ei drafod â’r dysgwyr hefyd, oherwydd fe wnaeth fy helpu i ddarganfod pa fath o yrfaoedd oedd o ddiddordeb iddynt… rhoddodd gyswllt i mi â’r disgyblion nad oedd yno o’r blaen…” Pennaeth Blwyddyn ac athro arweiniol Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith, Rhondda Cynon Taf, Gwanwyn 2026
“Roedd y weminar mor wych. Fe wnaeth y disgyblion wir fwynhau gwrando ar Mali, ac mae ganddynt lawer i feddwl amdano. Dydyn nhw ddim wedi stopio siarad amdani! Am berson rhyfeddol ac ysbrydoledig.” Adborth ar sesiwn holi ac ateb ar-lein gyda phartner Mullany ym maes Gwyddor Fferyllol, Haf 2026
“Fe wnaeth ein disgyblion wir fwynhau’r cyfle i gyfathrebu ag e-fentoriaid sy’n gweithio mewn lleoliadau go iawn, ac roedd y profiad o fudd iddynt.” Pennaeth Blwyddyn ac aelod o staff cymorth prydau ysgol am ddim, Caerffili, Gwanwyn 2026
Clywch ragor gan athrawon yma (yn Gymraeg ac yn Saesneg):