Rhoddi

Mae gwaith yr elusen yn ddibynnol ar haelioni cyllidwyr sy’n credu yn y gwaith rydym yn gwneud.

Mae gwaith yr elusen yn ddibynnol ar haelioni cyllidwyr sy’n credu yn y gwaith rydym yn gwneud. Fe allwch godi arian i brosiect penodol, neu gall fod yn gyfraniad i’r elusen i’w ddefnyddio yn y ffordd orau.

Mae gwaith yr elusen wedi cael ei ariannu mewn amryw o ffyrdd hyd yn hyn:

* Cyfraniadau wrth y cyhoedd

* Cyfraniadau wrth unigolion preifat

* Digwyddiadau codi arian

* Cyllid y prosiect

* Cyfraniadau ewyllys

* Taliadau wrth wasanaethau elusennol

 

Codi Arian

Os hoffech chi godi arian yn ein henw ni, diolch yn fawr! Allwn helpu drwy roi adnoddau gyda ein logo a chyngor ar reolau fel “gift aid donations”. Eto – cysylltwch â ni am help!

Enghraifft ddiweddar o godi arian yn llwyddiannus oedd taith gerdded noddedig i fyny (ac i lawr) Pen Y Fan gan Michael Meredith, Jamie Williams ac Adam Mullany. Dim unwaith, nac ychwaith ddwywaith ond pum gwaith! Fe gododd y grŵp £1062 i’r elusen. Diolch yn fawr, rydym wir yn ei werthfawrogi a gobeithio bydd eich pengliniau yn adfer yn fuan!

 

Rhoi Arian

Os hoffech gyfrannu'n uniongyrchol, gallwch wneud hynny mewn nifer o ffyrdd:

Siec - “The Mullany Fund” at The Mullany Fund, P.O. Box 29, Swansea, SA9 5AB, United Kingdom.

Trosglwyddiad Banc - Trosglwyddwch yr arian i Cronfa Mullany, Côd didoli (Sort code): 80-11-00, Rhif cyfrif: 06086696

Carden Credyd / Debyd -  Er mwyn sicrhau diogelwch eih rhodd, rhowch yn ddiogel gyda 'Just Giving'

 

Cofiwch ni yn eich ewyllys

Rydym wedi bod digon ffodus i dderbyn cyfraniadau wrth unigolion oedd am wneud gwahaniaeth wedi iddynt fynd. Heb y fath yma o anrheg, ni fyddai nifer o elusennau rydych yn cefnogi yn bodoli.  Ystyriwch ein cynnwys ni os ydych yn meddwl am adael anrheg elusennol yn eich ewyllys. 

 

Gweithio gyda ni

Os hoffech chi neu eich corff (organisation) weithio mewn partneriaeth gyda ni, neu os allwn ni ddarparu prosiect i chi, peidiwch oedi; cysylltwch â ni am sgwrs.