Beth yw eFentora Mullany?
Mae’r prosiect hwn yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu dyheadau ac ennill yr wybodaeth a’r sgiliau a fydd yn eu helpu i symud ymlaen tuag at yrfa o’u dewis.
Rydym yn canolbwyntio ar yrfaoedd yn y gwyddorau bywyd a STEM, ond rydym hefyd yn helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau ehangach, megis hyder a chyfathrebu, a fydd yn eu helpu i gychwyn ar eu llwybr gyrfa.
Rydym yn paru pobl ifanc â mentoriaid sy’n gweithio yn y maes sydd o ddiddordeb iddynt, ac mae’r holl gyfathrebu’n digwydd ar-lein drwy ein ap.
Ein cenhadaeth yw cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau neu anfanteision wrth geisio dilyn gyrfa mewn STEM, gan gynnwys diffyg mynediad at rwydweithiau.