Ein cydweithredwyr

Dysgwch fwy am rai o’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw.

Mae Cronfa Mullany yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i gyflawni ei gwaith. Mae recriwtio myfyrwyr drwy ysgolion lleol, wrth gwrs, yn hanfodol i’r hyn rydym yn ei wneud, a hoffem ddiolch i’r athrawon sy’n ein helpu i wneud hyn. Rydym hefyd yn cyflwyno ein gwaith i sefydliadau gwirfoddol lleol, a thrwy’r rhain rydym yn gobeithio recriwtio’r myfyrwyr hynny nad ydynt efallai mor hyderus i ddod ymlaen mewn lleoliad ysgol.

Yn olaf, mae Cronfa Mullany yn cydweithio â sefydliadau uchel eu parch eraill sy’n hyrwyddo symudedd cymdeithasol a/neu’r gwyddorau bywyd a gyrfaoedd STEM. Mae gweithio’n agos gyda’r holl sefydliadau hyn yn galluogi’r elusen i ddarparu ei gwasanaeth e-Fentora arloesol yn y ffordd fwyaf effeithlon a chynaliadwy, gan gynnig gwerth rhagorol am arian.

Social Mobility Foundation

Yn 2021, cafodd ein Swyddog Digwyddiadau, Sumayah Hussain, ei secondio i’r Social Mobility Foundation. Ei phrif dasg oedd trefnu gweminarau byw am broffesiynau ym maes y gwyddorau bywyd, a gyflwynwyd gan ein mentoriaid gwirfoddol, yn ogystal â gweithdai ar dechnegau cyfweliadau MMI. Darparodd hefyd adnoddau cymorth i’r rhai a fynychodd.

Roedd y broses gyfan yn cefnogi ein Cyfres Mewnwelediad, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Social Mobility Foundation am gytuno i gefnogi Sumayah yn y gwaith hwn. Gobeithiwn gydweithio â nhw eto ar brosiectau yn y dyfodol.

‘Roedd y siaradwyr gwadd, yn enwedig y nyrs oedolion, yn wych am roi cipolwg i mi ar fanteision ac anfanteision eu gyrfaoedd, yn ogystal â phrofiad beunyddiol go iawn eu swyddi.’

Assistive Technologies Innovation Centre (ATIC), UWTSD

Rydym wedi bod yn ffodus iawn i weithio’n agos gyda’r tîm yn ATIC, sydd wedi darparu cyfleoedd gwych i’n myfyrwyr e-Fentora. Yn ystod anterth y pandemig, cynhaliodd y tîm nifer o weithdai rhithwir ar ddatblygu ap iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, ac yn fwy diweddar, gweithdai wyneb yn wyneb ar argraffu 3D a phrofiad defnyddwyr (UX).

‘Gweld tîm o bobl, oll o gefndiroedd gwahanol, yn gweithio mor dda gyda’i gilydd. Roedd gan bob un ohonynt ei faes diddordeb a’i arbenigedd ei hun, ond roedden nhw i gyd yn cyd-dynnu ac roedd ganddynt amgylchedd gwaith hyfryd. Roedd yr argraffu 3D yn wych hefyd!’

Logo for Assistive Technologies Innovation Centre at University of Wales

STEM Ambassadors

Gall unrhyw un sydd â phrofiad yn y diwydiant neu wybodaeth broffesiynol am bynciau STEM ddod yn STEM Ambassador. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael ein gwahodd i gyflwyno i weithwyr proffesiynol sydd wedi ymuno â chynllun STEM Ambassadors ac, o ganlyniad, mae llawer o unigolion wedi cytuno i ddod yn fentoriaid Mullany i’n cyfranogwyr ifanc.

Mae’r cydweithio hwn, yn benodol, wedi ein galluogi i recriwtio nifer o beirianwyr i’n Banc Mentoriaid, gan ddarparu maes cymorth newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Tîm Nyrsio, Bydwreigiaeth a Meddygaeth Prifysgol Abertawe

Mae tîm o ddarlithwyr Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi o’u hamser ar sawl achlysur i gynnal gweithdai i’n myfyrwyr, gan egluro’r gwahanol lwybrau at yrfaoedd ym maes gofal iechyd, yn ogystal â rhoi cipolwg ar eu proffesiwn a bywyd prifysgol.

‘Roedd y gweithdy’n realistig ac yn llawn gwybodaeth. Gall gweithdai eraill fod yn unochrog yn yr hyn maen nhw’n ei ddweud, ond roedd hwn yn gyflwyniad realistig gwych sydd wedi gwella fy hyder i wneud cais i’r Brifysgol.’

Scarlets Rugby

Mae’r tîm meddygol yn Scarlets Rugby wedi bod yn ddigon caredig i gynnig lleoliadau haf wythnos o hyd i fyfyrwyr sy’n ymgysylltu’n dda â’n cynllun e-Fentora. Wrth gysgodi tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys ffisiotherapyddion, dietegwyr a seicolegwyr, cafodd y myfyrwyr weld sut maent yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y chwaraewyr yn perfformio ar y cae ac yn gwella’n gyflym oddi arno.

Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn edrych ymlaen at drefnu rhagor o leoliadau yn y dyfodol.

‘Mwynheais yn fawr y profiad o weld beth sydd ei angen i weithio yn y diwydiant. Mae ambell foment yn sefyll allan wrth i mi fyfyrio ar y profiad – arsylwi sesiynau hyfforddi gyda’r interniaid Dadansoddi Perfformiad, a helpu rhai o’r ffisiotherapyddion yn ystod sesiynau adsefydlu ar gyfer chwaraewyr a oedd wedi’u hanafu.’

Logo for Scarlets Rugby

Ospreys in the Community

Drwy weithio gyda’r tîm yn Ospreys in the Community, rydym wedi gallu cysylltu â’r bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw sydd mewn perygl o ddod yn NEET yn 16 oed.

Drwy gymryd rhan yn ein prosiect mentora ar-lein, ein gobaith yw y bydd y bobl ifanc hyn yn dod i ddeall yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ac yn cael eu hannog i feddwl am eu camau nesaf a’u cynllunio.

Logo for Ospreys in the Community

University College London Hospitals (UCLH)

Mae myfyrwyr Blwyddyn 11 a 12 sy’n cymryd rhan yn ein sesiynau e-Fentora ac sydd â diddordeb mewn gwahanol agweddau ar feddygaeth, nyrsio neu’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael lleoliadau wythnos o hyd yn UCLH fel rhan o’u rhaglen haf.

Drwy gyfuniad o weithdai, efelychiadau clinigol a darlithoedd, nod y lleoliadau oedd rhoi cipolwg unigryw ar y rhinweddau sydd eu hangen ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr 21ain ganrif.