
Mae Cronfa Mullany yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau ledled De Cymru a’r DU i ddarparu e-fentora STEM, arweiniad gyrfaoedd, ymgysylltiad â chyflogwyr a chyfleoedd am ddim i bobl ifanc—yn enwedig y rheini na fyddai ganddynt fynediad atynt fel arall.
P’un ai ydych yn athro neu’n athrawes wyddoniaeth, yn arweinydd gyrfaoedd neu CWRE, yn bennaeth chweched dosbarth neu’n gydlynydd STEM, neu’n canolbwyntio ar gymorth FSM/RADY, rydym yma i gefnogi’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.
E-fentora
Caiff myfyrwyr eu paru â gweithwyr proffesiynol STEM gwirfoddol ar gyfer e-fentora unigol.
Sgyrsiau Mewnwelediad
Mae ymchwilwyr, peirianwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, biolegwyr, ffisegwyr, arbenigwyr mathemateg a digidol, a gwyddonwyr o bob math yn siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr am yrfaoedd a’r brifysgol.
Profiad Gwaith Rhithwir
Mae myfyrwyr yn cael cipolwg ar weithleoedd STEM go iawn drwy weithgareddau dan arweiniad cyflogwyr.
Gwobrau a Chydnabyddiaeth
Rydym yn dathlu cyflawniadau myfyrwyr ac yn annog dyheadau. Gallwn ddarparu tystysgrifau cydnabyddiaeth a phrofiad uniongyrchol sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr STEM.
