Tystebau Athrawon

We've partnered with 55 schools over the last seven years!

 

“Rwyf yn angherddol am brosiect Cronfa Mullany, credaf ei fod yn gyfle arbennig i ddisgyblion yr ysgol i allu newid eu bywydau a bywydau eu plant, i dorri bant o’r cylch tlodi mae nifer ohonynt yn rhan ohono.” Athro, Ysgol Cefn Hengoed

“Roedd y mentoriaid yn gallu dod â’r galwedigaethau yn fyw o ran nifer o faterion e.e. baich gwaith, parhau i ddatblygu yn broffesiynol, delio â phenderfyniadau anodd a gweithio fel tîm. Mae'r rhain i gyd yn fewnwelediadau sy’n mynd i helpu disgyblion i adlewyrchu..." Darlithydd, Coleg Gwyr

 

“Mae’r disgyblion yn teimlo wedi eu harfogu i gymryd camau gweithredu er mwyn helpu eu hun – mae sawl disgybl wedi dod o hyd i brofiad gwaith mewn amrywiaeth o swyddi gofal iechyd a fydd o help iddynt wrth wneud cais i’r Brifysgol, yn enwedig o fewn Meddygaeth a Fferylliaeth gan fod profiad yn ofynnol. Mae pawb wedi mynegi fod y cyngor a gafwyd o’r prosiect wedi bod yn ffactor iddynt i gymryd camau gweithredu.” Athro, Ysgol Bishop Vaughan

"Mae’r prosiect wedi ysgogi’r disgyblion yn eu gwaith. Mae gan nifer rhywbeth fel nod, lle o’r blaen roeddent yn aros i rywbeth i ddigwydd. Maent yn deall pa fath o raddau sydd angen arnynt ac yn gweithio’n galetach i’w cyrraedd. Mae’r disgyblion o gefndiroedd anfanteisiol oedd yn anymwybodol o’r cyfleoedd ar gael, nawr yn arddangos ddisgwyliadau uwch o’u hunain.” Athro, Ysgol Ystalyfera