Manteision ac effaith

Manteision ac effaith

Dangosodd ein gwerthusiad diweddar fod ein gwaith wedi dod â manteision sylweddol ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc a gymerodd ran, gan gynnwys:

  • Dywedodd 88% fod eu sgiliau astudio wedi gwella
  • Dywedodd 80% fod eu sgiliau cyfathrebu wedi gwella
  • Enillodd 92% ddealltwriaeth ehangach o’r llwybrau i’r brifysgol
  • Teimlai 91% fod y prosiect wedi eu galluogi i ddilyn gyrfaoedd STEM

Mae ein rhaglen hefyd yn cyd-fynd yn gryf â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cyfrannu at fanteision hirdymor i gymunedau: sgiliau gwell, mwy o hyder, rhwydweithiau ehangach o fodelau rôl a llai o gylchoedd o allgáu.

Mae tystiolaeth yn dangos bod rhwystrau strwythurol parhaus yng Nghymru, gyda phroffesiynau STEM yn parhau i fod yn anghyfartal iawn yn erbyn ymgeiswyr o gefndiroedd dosbarth gweithiol a difreintiedig (Y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol 2016 / Ymddiriedolaeth Sutton 2025). Prin yw’r cyfleoedd profiad gwaith, er gwaethaf y galw a’r brwdfrydedd mawr: dangosodd ein gwerthusiad yn 2024 fod angen cymorth ar bron i dri chwarter y bobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith ym maes STEM.

Gweler rhagor am ein digwyddiadau gyrfaoedd a’n cyfleoedd Profiad Gwaith Rhithwir yma:

Rhestr Chwarae Cipolwg ar Yrfaoedd

Cofrestrwch eich diddordeb mewn gweithio gyda ni yma.