Sut mae Cronfa Mullany yn Gweithio gyda Chyflogwyr STEM

Dysgwch am ein cydweithrediadau

map welsh

Mae Cronfa Mullany yn gweithredu ar y groesffordd rhwng rhwydwaith cryf o ysgolion a pherthnasoedd hirsefydlog â chyflogwyr a phartneriaid diwydiant. Rydym wrthi’n ceisio ehangu a chryfhau ein rhwydwaith o gyflogwyr. Mae ein partneriaethau hirsefydlog â chyflogwyr yn cynnwys:

  • Scarlets Rugby – cefnogi llwybrau i yrfaoedd ym maes ffisiotherapi
  • Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC), PCYDDS – cefnogi mentora a lleoliadau sy’n canolbwyntio ar arloesi
  • Nyrsio, Bydwreigiaeth a Meddygaeth Prifysgol Abertawe – cefnogi llwybrau i yrfaoedd ym maes gofal iechyd
  • Ospreys yn y Gymuned – helpu i gyrraedd pobl ifanc y tu allan i lwybrau academaidd traddodiadol

Mae cynifer o ffyrdd y gall eich cwmni neu aelodau o’ch tîm ein helpu i gefnogi pobl ifanc. Er enghraifft:

  • recriwtio cydweithwyr i ddod yn e-fentoriaid Mullany
  • cynnig sgyrsiau am Lwybrau Gyrfa a sesiynau holi ac ateb i bobl ifanc – naill ai fel paneli gweminar byw neu wedi’u recordio ymlaen llaw ar gyfer cronfa adnoddau ein sianel YouTube
  • cynnal Ymweliadau Cipolwg ar Yrfaoedd yn eich safle neu’ch swyddfa
  • cyflwyno gweithdai gyda ni mewn ysgolion neu golegau, gan ganolbwyntio ar sgiliau ac astudiaethau achos yn eich maes
  • dod gyda ni i siarad yn uniongyrchol â phobl ifanc am eich llwybr gyrfa mewn gwasanaethau neu ddiwrnodau dathlu STEM mewn ysgolion neu golegau
  • darparu cyfleoedd i gysgodi yn y gweithle, cyfleoedd Profiad Gwaith Rhithwir neu leoliadau profiad gwaith byr
  • cynnig nawdd penodol – megis ein Grantiau Symudedd newydd, sy’n helpu ysgolion, colegau neu bobl ifanc i deithio i ddigwyddiadau neu brofiadau gyrfa a fydd yn cryfhau eu CV
  • ein cynnwys mewn ceisiadau am gyllid fel buddiolwyr, neu fel eich partner Gwerth Cymdeithasol neu Gymorth Cymunedol

Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio pecyn sy’n gweddu orau i gapasiti a lleoliadau eich tîm ac sy’n adlewyrchu gwerthoedd cymdeithasol eich cwmni.