Sefydlwyd Cronfa Mullany yn 2008 i gefnogi pobl ifanc yn Ne Cymru sydd â diddordeb mewn gyrfa ym meysydd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
P’un ai mai chi yw’r person cyntaf yn eich teulu sy’n bwriadu mynd i’r brifysgol, eich bod yn ofalwr ifanc neu fod gennych brofiad o fod mewn gofal, neu efallai eich bod yn byw gydag anabledd – credwn na ddylai diffyg cyfleoedd na chefnogaeth atal neb rhag dilyn eu nodau.
Wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein tîm ymroddedig o staff yr elusen ac ymddiriedolwyr yn rheoli ac yn darparu nifer o raglenni cymorth effeithiol sydd wedi’u cynllunio i roi cyfleoedd i bobl ifanc lwyddo; gwella hyder a meithrin gwydnwch; a datblygu ymdeimlad cryfach o allu i wneud penderfyniadau a gweithredu drostynt eu hunain.
Gweler ‘Yr Hyn a Wnawn’ i ddysgu mwy am ein hamrywiaeth o raglenni arloesol.