Llwybrau Dyfodol - Profiad Seren

Darganfyddwch fwy am sut wythnos gafodd Seren yn Llundain ar ysgol haf UCLH

Bob blwyddyn, mae Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain  (UCLH) yn cynnal preswylfa wythnos o hyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio Meddygaeth. Rydyn ni mor ddiolchgar i UCLH sy'n gweithio gyda ni i ddarparu lleoedd i'n myfyrwyr sydd wedi ymgysylltu fwyaf, ac eleni fe wnaethon ni dalu i ddau o'n myfyrwyr deithio i Lundain i gael y mewnwelediad anhygoel hwn i ryfeddodau Meddygaeth!

'Roedd cwrdd a phobl newydd a mynd ar leoliadau mewn adrannau amrywiol o fewn ysbytai yn un o'r pethau gorau am y breswyl.'

'A bod yn onest, nid oedd unrhyw beth nad oeddwn yn ei hoffi am y breswyl! Fe wnes i fwynhau bob eiliad yn fawr.'

'O deithio i ddarlithoedd, i gwrdd â phobl newydd a mynd ar weithgareddau cymdeithasol gyda nhw - roedd y cyfan mor gyffrous!'

'Yn bendant nid yw'n brofiad y byddwn i'n ei gymrud yn ganiataol ac mae'n un rydw i wedi dysgu ohono ac wedi mwynhau cymaint.'

'Ni fyddwn wedi cael y cyfle hwn oni bai am Gronfa Mullany ac UCLH a hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r profiad hwn! Diolch!'