Help a chyngor
Gofynnwch i'ch mentor personol am gyngor ar:
Mae ein mentoriaid yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc sy’n ystyried gyrfa ym maes STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg).
Efallai bod gennych lwybr gyrfa mewn golwg eisoes, neu eich bod yn dal i ystyried eich opsiynau.
Mae ein mentoriaid yn gweithio mewn amrywiaeth enfawr o swyddi, o feddygaeth a chadwraeth i wyddor y gofod: pwy well i ddysgu ganddo na rhywun sydd eisoes yn gweithio yn y maes?
Mae ein rhaglen fentora ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed sy’n byw yng Nghymru.
Fel elusen symudedd cymdeithasol, ein cenhadaeth yw rhoi cyfle i bob person ifanc yng Nghymru ddilyn gyrfa ym maes STEM a’r gwyddorau bywyd, beth bynnag fo’i gefndir.
P’un ai mai chi yw’r person cyntaf yn eich teulu sy’n bwriadu mynd i’r brifysgol, eich bod yn ofalwr ifanc neu fod gennych brofiad o fod mewn gofal, neu efallai eich bod yn byw gydag anabledd—credwn na ddylai amgylchiadau neb ei atal rhag dilyn ei nodau ym maes STEM.
‘Rwyf wedi dysgu pethau gwych drwy hyn ac wedi cael gwybod sut i gael y swydd rwyf ei heisiau.’ – Disgybl Blwyddyn 10.
Gofynnwch i'ch mentor personol am gyngor ar:
Penderfynu ar eich llwybr gyrfa
Gosod nodau personol
Profiad gwaith a CVs
Gwneud cais am brifysgol
Rheoli eich astudiaethau
Dewis opsiynau pwnc
Rydym hefyd yn darparu nifer cyfyngedig o leoliadau profiad gwaith yn ystod pob sesiwn i roi gwell cipolwg i chi ar eich llwybr gyrfa a / neu gefnogi unrhyw geisiadau prifysgol. Gallwch wneud cais amdanynt ar ddechrau'r sesiwn. Mae lleoliadau profiad gwaith yn y gorffennol wedi cynnwys cysgodi Meddygon Teulu, Fferyllwyr, Osteopathiaid a darlithwyr.
Llenwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb erbyn 23 Medi. Caiff myfyrwyr eu paru â mentor wythnos neu bythefnos cyn dechrau pob sesiwn e-Fentora. Yna, byddwch yn mewngofnodi i’n hap e-Fentora i ddechrau sgwrsio â’ch mentor.
Rydym yn ceisio paru myfyrwyr â mentoriaid yn eu maes diddordeb penodol. Rydym hefyd yn gofyn i chi restru rhai diddordebau eraill, rhag ofn na fydd hyn yn bosibl.