Who Do We Work With?

Fel rhan o'n gwaith, mae Cronfa Mullany yn cydweithio â sefydliadau eraill sy'n hyrwyddo symudedd cymdeithasol a/neu'r gwyddorau bywyd a gyrfaoedd STEM. Mae gweithio'n agos gyda'r sefydliadau hyn yn galluogi'r elusen i ddarparu ei gwasanaeth e-Fentora arloesol yn y modd mwyaf effeithlon a chynaliadwy, gan gynnig gwerth rhagorol am arian.

 

Sefydliad Symudedd Cymdeithasol

Yn 2021 secondiwyd ein Swyddog Digwyddiadau, Suwayah Hussain, i'r Sefydliad Symudedd Cymdeithasol. Ei thasg allweddol oedd trefnu gweminarau byw o amgylch proffesiynau gwyddor bywyd, a ddarparwyd gan ein mentoriaid gwirfoddol, yn ogystal â gweithdai ar dechnegau cyfweld MMI. Darparodd hefyd adnoddau cymorth i'r rhai a fynychodd. Cefnogodd y broses gyfan ein Cyfres Insight, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Sefydliad Symudedd Cymdeithasol am gytuno i gefnogi Sumayah yn y broses hon ac rydym yn gobeithio cydweithio â nhw eto ar brosiectau yn y dyfodol.

‘Roedd y siaradwyr gwadd, yn enwedig y nyrs oedolion, yn wych am roi cipolwg i mi ar fanteision ac anfanteision eu gyrfa yn ogystal â’r profiad byw dyddiol o’u swyddi.’

 

Logo for Assistive Technologies Innovation Centre at University of Wales

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i weithio'n agos gyda'r tîm draw yn ATIC sydd wedi darparu cyfleoedd gwych i'n myfyrwyr e-Fentora. Yn ystod anterth y pandemig fe gynhalion nhw ychydig o weithdai rhithwir ynghylch datblygu ap iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc ac yn fwy diweddar, gweithdai wyneb yn wyneb argraffu 3D a phrofiad UX.

‘Mae gweld tîm o bobl, i gyd o gefndiroedd gwahanol yn gweithio mor dda gyda’I gilydd. Roedd gan bob un ohonynt eu maes diddordeb a’u harbenigedd ond daethant I gyd ymlaen ac roedd ganddynt amgylchedd 1waith hyfryd. Roedd argraffu 3d yn wych hefyd!’

 

Llysgenhadon STEM

Gall unrhyw un sydd â phrofiad diwydiant neu wybodaeth broffesiynol o bynciau STEM ddod yn Llysgennad STEM. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael ein gwahodd i gyflwyno i weithwyr proffesiynol sydd wedi ymuno â’r Cynllun Llysgenhadon STEM, ac o ganlyniad, mae llawer o unigolion wedi cytuno i ddod yn fentoriaid Mullany. Mae’r cydweithio hwn, yn arbennig, wedi ein galluogi i recriwtio sawl peiriannydd i’n banc o fentoriaid, gan felly ddarparu maes cymorth newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Tîm Nyrsio, Bydwreigiaeth a Meddygaeth Prifysgol Abertawe

Mae tîm o ddarlithwyr Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi o'u hamser ar sawl achlysur i gynnal gweithdai i'n myfyrwyr, gan esbonio'r gwahanol lwybrau i yrfaoedd gofal iechyd, yn ogystal â rhoi cipolwg ar eu proffesiwn a bywyd prifysgol.

‘(Roedd y gweithdy) yn realistig ac yn llawn gwybodaeth. Gall gweithdai eraill fod yn rhagfarnllyd yn yr hyn maen nhw’n ei ddweud ond roedd hon yn sgwrs realistig wych sydd wedi gwella fy hyder wrth wneud cais i Brifysgol.’

 

Logo for Scarlets Rugby

Rygbi'r Scarlets

Mae tîm meddygol rygbi’r Scarlets wedi bod mor garedig â chynnig lleoliadau haf wythnos o hyd i fyfyriwr sy’n ymgysylltu’n dda â’n cynllun e-Fentora. Wrth gysgodi tîm amlddisgyblaethol a oedd yn cynnwys ffisiotherapyddion, dietegwyr a seicolegwyr, gwelodd y myfyriwr sut maent yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod chwaraewyr yn perfformio ar eu gorau ar y cae ac yn gwella'n gyflym oddi ar y cae. Rydym yn hynod o falch ac yn edrych ymlaen at drefnu mwy o leoliadau yn y dyfodol.

'Fe wnes i fwynhau profi'r hyn sydd ei angen i weithio yn y diwydiant yn fawr. Mae cwpl o eiliadau yn sefyll allan wrth i mi fyfyrio ar y profiad - arsylwi sesiynau hyfforddi gyda'r interniaid Dadansoddwr Perfformiad, gan roi cymorth i rai o'r ffisiotherapyddion yn ystod sesiynau adsefydlu ar gyfer y chwaraewyr sydd wedi'u hanafu.'

 

Logo for Ospreys in the Community

Gweilch yn y Gymuned

Gan weithio gyda'r tîm draw yn y Gweilch yn y Gymuned, rydym wedi gallu cael mynediad at y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw sydd mewn perygl o ddod yn NEET yn 16 oed. Trwy ymgysylltu â'n prosiect mentora ar-lein, gobeithio y bydd y bobl ifanc hyn ar eu hennill dealltwriaeth o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt a'u hannog i feddwl a chynllunio eu camau nesaf.