Cyfleoedd profiad gwaith i myfyrwyr
Mae nifer cyfyngedig o brofiadau gwaith ar gael ar hyd y maes Gwyddorau Bywyd, a maent yn ehangu yn gyson. Os ydych wedi cofrestru am sesiwn e-fentora, yn cysylltu yn dda gyda’ch mentor, ac yn cwrdd â meini prawf profiad gwaith, yna fe allwch wneud cais am leoliad gwaith.
Mae’r lleoliadau yn gweithio fel dyddiau amlygiad gwaith i fyfyrwyr ifancaf y sesiwn sy’n caniatau iddynt weld yr amrywiaeth o swyddi a fodola o fewn y Gwyddorau Bywyd – i gysgodi gwaith lle mae’r myfyrwyr yn gallu e.e. treulio dydd mewn meddygfa doctor i ddod i ddeall beth mae’r swydd fel.
Yn flynyddol, rydym yn cael cwpl o lefydd profiad gwaith ym Mhrifysgol College London Hospital (UCLH) sy’n para am wythnos. Mae nifer o myfyrwyr y project e-fentora wedi dweud eu bod nhw wedi elwa yn fawr o’r profiad. Ewch amdani…!
Rydym hefyd mewn cysylltiad â sefydliadau eraill sy'n cynnig cyfleoedd profiad gwaith anhygoel i fyfyrwyr yng Nghymru! Cadwch lygad allan am wybodaeth bellach!