Mae Cronfa Mullany yn gwobrwyo gwobrau i fyfyrwyr rhagorol yn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, ac i fyfyrwyr Meddygaeth yn ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Isod rydym wedi cynnwys rhai dyfyniadau wrth rhai o enillwyr y wobr, ar y cyd gyda rhestr o bobl sydd wedi ennill cydnabyddiaeth y wobr dros y blynyddoedd!
Louie Howie, Enillydd 2022
'Rwy'n teimlo'n falch iawn bod tîm rhaglen ffisiotherapi UWE wedi dyfarnu Gwobr Mullany am Ragoriaeth i mi. Roedd y wobr am ein sgyrsiau am gynwysoldeb o fewn ffisiotherapi. Mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gall ffisiotherapi ddod yn fwy cynhwysol o amrywiaeth rhyw, gan gynnwys trawsryweddol. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn y gwaith gwrth-hiliaeth y mae angen i raglen hyfforddi ffisiotherapi ei gynnwys, ac aeth fy sgyrsiau gyda thîm y rhaglen law yn llaw â’r hyn a ddysgais i yn dilyn llofruddiaeth George Floyd yn 2020 a’r arddangosiadau Black Lives Matter. Rwy’n aelod o Rwydwaith Amrywiaeth LGBTQIA+ y CSP, ac yn mynychu cyfarfodydd gydag aelodau o Rwydwaith Amrywiaeth BAME y CSP a’r Rhwydwaith Amrywiaeth Anabledd, a gwn fod llawer o waith i’w wneud o hyd ym maes ffisiotherapi i wanhau gormes strwythurol. Rwy'n ddiolchgar i Gronfa Mullany am y cyfle i dynnu ychydig mwy o sylw i'r gwaith hwn.'
Obed, Enillydd 2021
'Rwyf wrth fy modd ac yn ddiolchgar iawn i ennill Gwobr Mullany am Ragoriaeth. Methu ei gredu mewn gwirionedd pan dderbyniais yr e-bost yn dweud fy mod wedi ei hennill, ac roedd darllen hanes y gwobrau yn ddiddorol iawn. Fy athroniaeth mewn bywyd yw gwneud gwahaniaeth bob amser a gadael effaith ble bynnag y byddwch chi; yr wyf yn gwybod y gwnaeth Ben a Catherine hyn yn sicr. Ar hyn o bryd rwy’n aros i ddechrau rôl gylchdro band 5 gyda’r sgôp i ymuno â’r fyddin fel ffisiotherapydd yn y dyfodol agos. Rwy'n credu y bydd fy ymrwymiad, angerdd a brwdfrydedd i achosi effaith yn tyfu hyd yn oed yn fwy gyda fy ngyrfa fel ffisiotherapydd. Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i holl deulu Mullany a holl staff ffisiotherapi UWE. Rydyn ni i gyd wedi cael ein creu gan Dduw i wneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun.'
Steph Evans, emillydd 2019
'Graddiais o UWE Bryste ym mis Gorffennaf gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffisiotherapi, a dyfarnwyd Gwobr Mullany am Ragoriaeth i mi... Rwyf am ddweud fy mod yn meddwl bod y gwaith y mae Cronfa Mullany yn ei wneud ar gyfer myfyrwyr ffisiotherapi a meddygaeth ledled y DU yn ysbrydoledig. Fel unigolyn nid wyf bob amser wedi bod â llawer iawn o hunanhyder, yn enwedig ym myd addysg... Fodd bynnag, mae derbyn Gwobr Mullany am Ragoriaeth wedi bod o gymorth mawr i ddatblygu fy hunanhyder a hunan-barch o ran fy sgiliau clinigol. Am hyn hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am greu Gwobr Mullany am Ragoriaeth fel y gall myfyrwyr ffisiotherapi eraill, yn ogystal â minnau, gael gwobr sy'n cydnabod ein gwaith caled ac am gyfrannu at eraill trwy gydol ein hamser yn y brifysgol.'
Zara Murphy, ennillydd 2018
'Cefais sioc lwyr ond roedd yn anrhydedd llwyr i dderbyn y wobr am fy ngwaith yn ystof fy amser yn y brifysgol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r teulu a gyfrannodd yr anrheg.'
Victoria Valdy, ennillydd 2017
“Hoffwn ddweud gymaint o anrhydedd yw cael fy ngwobrwyo gyda’r wobr fawreddog yma. Yn ystod fy nhair mlynedd yn y brifysgol rwyf wedi ymdrechu i wneud fy ngorau i ysbrydoli eraill, ac mae cael fy nghydnabod am hyn yn syfrdanol… Mae derbyn y wobr yma wedi fy annog i i barhau i gyflawni, ysbrydoli a datblygu fy nealltwriaeth gydol fy ngyrfa i ‘r gorau o fy ngallu.”
Lehrah Sailsbury, ennillydd 2016
“Anrhydedd oedd dysgu fy mod wedi cael fy newis i dderbyn y wobr yma ac rwy’n gwerthfawrogi eich haelioni a chefnogaeth… Teimlaf yn ffodus fy mod wedi bod yn rhan o ddatblygiadau a newid o fewn y rhaglen Ffisiotherapi.”
Elliot Goodyer, ennillydd 2013
“Mae’n amhrisiadwy cael fy nghydnabod am fy ymdrech. Mae hyn wedi fy annog i i barhau i wneud fy ngorau ac i gyflawni'r gorau y gallaf.
Pob ennillydd y wobr
2022 - Louie Howie
2021 -
2020 -
2019 - Steph Evans
2018 - Zara Murphy
2017 - Victoria Baldy
2016 - Lehrah Salisbury
2015 - Jennifer Greet
2014 - Faye Goodwin
2013 - Elliot Goodyer
2012 - Claire Stables
2010 - Katie Hurst / Eleanor Forrest
2009 - Nathan West