e-Fentora Mullany yw ein prif raglen gymorth. Mae'n cefnogi pobl ifanc i adeiladu ar eu dyheadau ac ennill gwybodaeth a sgiliau i'w helpu i gymryd camau tuag at yrfa o'u dewis.
Er ein bod yn canolbwyntio ar Wyddorau Bywyd, rydym hefyd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a gwella sgiliau mwy cyffredinol fel technegau astudia ac adolygu a gwella eu hyder a'u gwytnwch i'w helpu i wneud penderfyniadau parthed ei camau nesaf ac opsiynau y dyfodol.
Wedi'i gyflwyno trwy gyfrwng llwyfan ar-lein diogel, mae e-Fentora Mullany yn paru myfyrwyr 14-19 oed â mentor proffesiynol ymroddedig sy'n darparu cyngor ac arweiniad wedi'i deilwra yn seiliedig ar themâu cymorth dros gyfnod y sesiwn.
Nod e-Fentora Mullany yw chwalu mythau, hyrwyddo asiantaeth a hunan-effeithiolrwydd a chynorthwyo myfyrwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu dyfodol.
Mae prosiect e-Fentora Miullany yn cael ei gefnogi a'i lywio gan 'damcaniaeth newid' y gellir ei lawrlwytho yma.