Sut mae’n gweithio?
Mae'r prosiect yn cefnogi pobl ifanc i adeiladu ar eu dyheadau ac ennill gwybodaeth a sgiliau i'w helpu i symud ymlaen tuag at gyrfa o'u dewis. Mae ein ffocws ar yrfaoedd Gwyddor Bywyd, ond rydym hefyd yn helpu pobl i ennill sgiliau mwy cyffredinol fel hyder, a fydd yn eu helpu i ddechrau ar eu llwybr gyrfa. Darperir cefnogaeth cyfrwng system fentora ar-lein, ac rydym yn ceisio cefnogi pobl ifanc a fydd yn ei chael yn fwy anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan nad oes neb yn eu teulu neu rwydweithiau wedi dilyn y llwybr yr hoffent ei ddilyn.