“Mae fy mentor yn arbennig! Does dim byd rwyf wedi gofyn wedi bod yn ormod ac mae’r wybodaeth rwyf wedi derbyn wedi bod yn amhrisiadwy.” (Blwyddyn 12)
"Mae gen i’r hyder nawr fy mod yn gallu cyflawni beth rwyf am gyflawni. Allai wir ddim canu ei chlod ddigon.” (Blwyddyn 12)
“Rwyf wedi dysgu nifer o bethau wrth wneud y prosiect ac rwyf wedi darganfod sut i gael y swydd rwyf am wneud.” (Blwyddyn 10)
“Mae wedi bod yn ddefnyddiol ac fe fyddwn i yn ei argymell i gyd-ddisgyblion a disgyblion iau.” (Blwyddyn 12)
“Rhwydwaith cefnogi arbennig sy’n darparu cyfleoedd gwych. Wastad yn hapus i helpu, i ateb cwestiynau wrth fod yn amyneddgar." (Blwyddyn 12)
“Rwyf yn gweld y prosiect yma yn dda ac yn gadarnhaol, mae’n brofiad cyffrous i siarad gyda pherson sydd â chefndir gwyddonol, ac i gael cyngor ar ddewisiadau pwysig a phrofiad.” (Blwyddyn 12)
"Mae fy mentor wedi fy helpu i astudio’n well ac i ddeall testunau yn well dros yr wythnosau diwethaf.” (Blwyddyn 9)
“Mae fy mentor wedi fy helpu i feddwl am y camau nesaf sydd angen i mi eu cymryd er mwyn cyrraedd y swydd rwyf am wneud.” (Blwyddyn 11)