Gwnaeth Jarrod y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael trwy e-Fentora Mullany, ac yma mae'n trafod ei brofiadau o ymgysylltu â Cronfa Mullany.
“Mae’r Gronfa Mullany wedi rhoi mewnwelediad imi i yrfaoedd o fewn Meddygaeth na fyddwn wedi’i gael heb y prosiect yma.
Yn ogystal â hyn, fe wnes i a fy mentor drafod newyddion Meddygaeth, pethau fel contractau doctoriaid iau a thechnoleg o fewn Meddygaeth – fe wnaeth hyn wella fy sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadlau!
Mae’r prosiect wedi fy helpu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cynorthwyo gydag ysgrifennu CV a datganiad personol UCAS.
“Mae’r prosiect wedi cael effaith ar fy newis i astudio Meddygaeth ac wedi fy ngwneud yn benderfynol i anelu am rôl doctor.
“Rwyf hefyd wedi mynychu gweithdai sydd wedi eu rhedeg gan y Gronfa Mullany ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn darparu gwybodaeth ar werth y Gwasanaethau a’r Bwrdd Iechyd a chyflwyniadau diddorol yn seiliedig ar Feddygaeth.”
Mae'r prosiect wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ynof fy hun ac wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu / llythrennedd.
“Roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy newis i fynd i Brifysgol College London Hospital (UCLH) am 5 diwrnod, o fewn y ganolfan addysg, ysbyty a chanolfan cancr; meddais ar ystod o sgiliau gwerthfawr megis CPR, dealltwriaeth o offer asesu clinigol systematig ABCDE, cymryd nodiadau meddygol, llawfeddygaeth ymyrraeth leiaf (MAS)."