Profiad Felicity

Pa wahaniaeth wnaeth e-Fentora i Felicity?

“Pan ddechreuais ar brosiect e-fentora’r gronfa Mullany, gofynnwyd i mi ddewis llwybr gyrfa yr oeddwn am ddilyn. Doedd gen i ddim syniad. Roeddwn yn gwybod fy mod i am weithio o fewn gwyddoniaeth, ond doeddwn ddim yn gwybod pa fath na sut i benderfynu.”

“Rwyf yn falch i ddweud fy mod I’n uchelgeisiol ac am fod yn fio-cemegydd, wedi i mi benderfynu ar y llwybr gyrfa yma gyda help fy mentor."

“Mae fy mentor wedi rhoi cyngor i mi ar dechnegau adolygu, rheoli amser, a chodi hunan hyder."

“Rwyf yn edrych ymlaen at y holl gyngor rwyf yn mynd i dderbyn yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn hynod o awyddus i barhau gyda’i sesiynau e-fentora ar ôl i’r sesiwn 9 wythnos yma orffen.”

“Ar ôl pedair wythnos o siarad gyda fy mentor, ges i ffurflen opsiynau TGAU am y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn medru llenwi’r ffurflen heb feddwl ddwywaith na phryderu.”

"Rwyf nawr yn fwy hyderus ac mae fy ngraddau wedi codi o ganlyniad i sut rwyf yn rheoli fy amser ac adolygu.”

Rwyf yn hynod o ddiolchgar am y gwaith mae fy mentor wedi gwneud gyda fi a theimlaf bod fy mentor newydd yr un mor ddefnyddiol.