Ymddiriedolwyr yr elusen
Rhichard Bowen - Cadeirydd
Mae Richard wedi gweithio fel Geoffisegwr Archwilio dros yr 20 mlynedd diwethaf, sy'n cynnwys chynllunio, gweithredu a rheoli prosiectau arolygon gwyddonol ledled y byd, ar y tir ac ar y môr. Fel entrepreneur gyda busnesau yn y sectorau amaethyddiaeth a thwristiaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddo ymweld ag ysgolion i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain. Mae Richard hefyd yn gweithio fel awdur comedi ac mae ganddo lyfrau teithio ysgrifenedig a llyfrau hanes lleol. Gyda diddordeb brwd mewn cydraddoldeb cymdeithasol, tarddiad llwyddiant entrepreneuraidd ac i gydnabod pwysigrwydd mentoriaid yn ei fywyd, cyd-sefydlodd Richard The Mullany Fund yn 2008.
E-bost: office@themullanyfund.org
Dr Mair Williams - Ymddiriedolwr
Mae gan Dr Mair Williams dros 36 mlynedd o brofiad fel Meddyg Teulu yn y gymuned. Yn 2013 derbyniodd MBE ar gyfer gwaith gofal iechyd ac elusen yn y DU a thramor. Mae hi'n Is-Lywydd Apêl Arch Noa gan iddi ymwneud â'r elusen ers ei sefydlu yn 2000. Mae gan Dr Williams dros 30 mlynedd o brofiad addysgu a hyfforddi meddygon, 12 mlynedd o brofiad fel tiwtor Datblygiad Proffesiynol Parhaus ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac ar hyn o bryd mae’n rhan o drefnu'r addysgu ar gyfer pob meddyg teulu yn CNPT. Mae gan Dr Williams brofiad mewn mentora un i un ac mae wedi gweithio mewn ysgolion cymunedol lleol.
Mrs Rachel Bowen - Ymddiriedolwr
Bu Rachel, un o ymddiriedolwyr cyntaf Cronfa Mullany, yn gweithio fel Gwyddonydd Biofeddygol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am dros 20 mlynedd ar ôl hyfforddi fel athrawes Bioleg. Yn ogystal â'i gyrfa broffesiynol fel Gwyddonydd Bywyd, mae Rachel wedi rhedeg ei busnes fferm ei hun ers dros 40 mlynedd a busnes llety gwyliau ers dros 20 mlynedd. Mae Rachel hefyd wedi gwirfoddoli am bum mlynedd i Ambiwlans Awyr Cymru.
Mrs Marilyn Mullany - Ymddiriedolwr
Mr Adam Mullany - Ymddiriedolwr
Mr Nick Russill - Ymddiriedolwr
Dechreuodd gyrfa Nick Russill fel Daearegwr Archwilio ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, gan weithio yn Awstralia ar ragolygon copr ac aur. Yn 1992 cyd-sefydlodd TerraDat Geophysics sy'n cael eu gydnabod fel un o brif gwmniau mapio is-wyneb Ewrop ac yn 1993 dyfarnwyd ef yn 'Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn' i Gymru.
Yu allan i'r gwaith, mae Nick yn ffotograffydd brwd ac wedi cyfrannu at weithdai maes yn yr Arctig a'r Antartig, gan gynnal dwy arddangosfa gyhoeddus. Ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i gyflawni eu potensial ac ar hyn o bryd mae ganddo rôl fel Enterpreneur Preswyl y Gymdeithas Frenhinol yn Mhrifysgol Exeter. Mae Nick hefyd yn fodel rôl busens ar gyfer prosiect 'Syniadau Mawr Cymru' Llywodraeth Cymru, gan ysbeydoli pobl ifanc o'r ysgol gynradd hyd at addysg bellach i wireddu eu breuddwydion. Daeth yn ymddiriedolwr Cronfa Mullany yn 2019
Noddwr
Ein noddwr yw Sarah Ferguson, Duges Efrog
Cymeradwyaeth
Mae ein elusen wedi'i chyfranogi gan syr Vivian Richards, Llysgennad Chwareon a Thwristiaeth yn Antigua a Barbuda.