Wedi'i leoli i ddechrau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, rydym wedi datblygu partneriaethau cryf gydag ysgolion yn yr ardal ac yn y degawd diwethaf rydym wedi ehangu ein hymgysylltiad â chymdogion Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Mae ein rhaglenni cymorth blaenllaw yn cynnwys y cynllun Arian i Ragoriaeth a'r prosiect e-Fentora yr ydym wedi'i ddatblygu yn rhaglen e-Fentora Mullany.
Ers sicrhau cymorth ariannol ychwanegol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym wedi sefydlu rhaglenni cymorth pellach ac wedi datblygu logo a brandio newydd ar gyfer ein sefydliad. Fodd bynnag, ar y dudalen yma rydym yn cofio ac yn dangos parch a thalu teyrnged i wreiddiau’r elusen.